Datblygu Sgiliau Dwyieithrwydd : Sut i Greu Gwefan Ddwyieithog

English

Yn aml iawn un o’r pwyntiau cyswllt cyntaf rhwng mudiad gwirfoddol a’r cyhoedd yw’r
wefan. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o bwysigrwydd cael gwefan atyniadol,
ddefnyddiol a hawdd ei thramwyo, ond ydych chi erioed wedi ystyried cael gwefan
ddwyieithog fydd yn gwasanaethu’r ddwy brif gymuned ieithyddol yn Sir Benfro?
Cyn mynd ati, dyma grynodeb o rhai o’r egwyddorion sylfaenol ac arferion da i’w
hystyried :

Cyfeiriad Gwe – Os oes gan eich mudiad deitl dwyieithog, beth am gael cyfeiriadau gwe yn y
ddwy iaith e.e. www.gwirfoddol.com a www.voluntary.com gyda’r cyfeiriadau
gwahanol yn arwain at dudalen hafan yn yr un iaith a’r cyfeiriad, neu at dudalen hafan gwbl
ddwyieithog sydd wedyn yn cynnig dewis iaith. Hafan – Os ydych yn creu tudalen hafan
ddwyieithog, dylech anelu at sicrhau cydraddoldeb o ran y ddwy iaith (cynnwys a
dyluniad), gan gynnig dewis iaith i’r darllenydd ar gyfer y tudalennau dilynol. Os ydych yn creu
tudalennau hafan ar wahan yn y Gymraeg a’r Saesneg, dylid sicrhau eu bod yn ddrych o’i
gilydd, ac yn cynnwys dewis iaith er mwyn mynd a’r darllenydd at y dudalen hafan
gyfatebol yn yr iaith arall.

Cynnig Dewis Iaith – Dylid cynnig dewis iaith i’r darllenydd ar bob tudalen drwy gyfrwng
botwm wedi ei farcio ‘Cymraeg’ neu ‘English’, fydd yn cyfeirio’r darllenydd at y dudalen
gyfatebol yn yr iaith arall. Cymraeg a Saesneg Clir – Dylid ceisio sicrhau
Cymraeg a Saesneg clir ar wefannau. Mae gan Ganolfan Bedwyr ym Mangor argymhellion
ynglyn â defnyddio Cymraeg Clir. Prawfddarllen – Dylid sicrhau fod proflenni
cynnwys yn cael eu prawfddarllen gan olygydd cymwys er mwyn osgoi gwallau iaith, cyfieithu
clogyrnaidd ac ati. Mae cyngor ynglyn â chyfieithu a golygu ar gael gan Gymdeithas
Cyfieithwyr Cymru. Acenion – Gallwn ddarparu cyngor ynglyn a
sicrhau fod acenion (yn enwedig y to bach ar ‘w’ ac ‘y’) yn ymddangos yn gywir ar eich
gwefan.


Diweddaru Deunydd – Yn ddelfrydol dylid diweddaru deunydd ar gyfer y wefan yn y ddwy
iaith ar yr un pryd, a’i osod ar y wefan ar yr un pryd

Cydraddoldeb Dylunio – Dylai’r dylunio fod yn gyfartal yn y ddwy iaith er mwyn sicrhau
cydraddoldeb.

Llyfrgell Gyhoeddiadau – Dylid rhoi gwybod ym mha iaith/ieithoedd mae amrywiol
gyhoeddiadau ar gael, ynghyd â maint, fformat ac amser llwytho’r ffeil. Dylid osgoi cyfieithu
teitlau dogfennau i’r Gymraeg oni bai eu bod ar gael yn y Gymraeg.
[Diolch i Cymad a Bwrdd yr Iaith Gymraeg am y wybodaeth uchod]

Rhagflas a chrynodeb yn unig a geir yn yr erthygl hon. Os am fwy o gyngor a chymorth
ynglyn â chynllunio gwefannau dwyieithog, neu ynglyn ag un rhyw fater sy’n ymwneud â
datblygu dwyieithrwydd o fewn eich mudiad, beth am gysylltu ag Estyn Llaw ar y ffôn :
(0800) 9177 969 neu’r ebost : ymhol@estynllaw.org .

 

Developing Bilingualism Skills : How to Create a Bilingual Website

Cymraeg

Very often these days, one of the first points of contact between a voluntary body and the public, is the organisation’s website. Most people are aware of the importance of ensuring an attractive, useful and easily navigable website, but have you ever considered creating a bilingual website that will serve the two main linguistic communities in Pembrokeshire? Before embarking upon this course of action, here is a summary of some of the main principles and elements of good practice that should be considered.


Domain Name / Web Address – If your organisation has a bilingual title, you could aim
for two domain names / addresses (one in each language) e.g. www.gwirfoddol.com and
www.voluntary.com where each domain name links to a home page in the same language, or
to a fully bilingual home page that offers the user a subsequent language choice.


Home Page – If you are creating a bilingual home page, you should aim to ensure that the
principle of equality is adhered to (in both content and design), offering users a language
choice for subsequent pages. If you are creating separate homepages in Welsh and
English, you should ensure that they reflect one another in content and design, and that a
language choice is available to link users to the corresponding home page in the other
language.


Language Choice – The user should be offered a language choice on every page of
your website by means of links marked ‘Cymraeg’ or ‘English’ which will direct the user
to the corresponding page in the other language


Plain Welsh and English – The Welsh and English used in websites should be clear and
easily understood. Canolfan Bedwyr in Bangor have recommendations regarding the use of
Cymraeg Clir, Plain Welsh.


Proofreading – The content of websites should be proof-read by a qualified editor in order to
avoid spelling mistakes, literal translation etc. The Association of Welsh Translators offer
advice regarding translation and editing issues.


Accents – We can offer advice regarding how to ensure that accents (especially the
circumflex accent on ‘w’ and ‘y’) transpose correctly to your website.


Updating Material – Ideally material being updated on your website should be updated
and uploaded simultaneously in both

Welsh and English. Equality of Design – The design for both language versions of your website should
match exactly in order to ensure equality.


Publications Library – The website should inform users in which language/languages
various documents are available, along with information regarding the size, format and
download time of the file. Avoid translating the titles of documents to Welsh unless those
documents are available in Welsh. [Thanks to Cymad and the Welsh Language
Board for the above information.}


This article only offers an introduction and summary of these issues. If you would like
more advice or support regarding developing a bilingual website, or regarding any issue to do
with developing bilingualism within your organisation, how about contacting Estyn Llaw
by phone : (0800) 9177 969 or via email :
enquiries@estynllaw.org .